Prosiectau

 

Dyma rai prosiectau sydd wedi’ gwneud yn bosib drwy arian CROCHAN CELF:

 

Rhaglennu cynhyrchiadau theatr i blant sydd ag anghenion arbennig gyda cwmni theatr Oily Cart

Ers agor Canolfan Mentrau Creadigol Galeri yn 2005, mae’r cwmni wedi datblygu partneriaeth gyda cwmni theatr Oily Cart. Y prosiect mwyaf cyffrous ac arloesol sydd wedi ymweld â Galeri hyd yma  yw “Something In The Airsef cynhyrchiad penodol ar gyfer plant ar y sbectrwm awtistig a ddaeth i Galeri yn 2010 (premiere ac unig berfformiad y cwmni yng Nghymru).

“Galeri ydi’r peth gorau sydd erioed wedi digwydd yng Nghaernarfon! Mae’r rhaglen ddigwyddiadau yn benodol yn wych – gyda amrywiaeth o weithgareddau. Fel nain i blentyn sydd ag anableddau dysgu ‘rwyf yn gwerthfawrogi y cyfleoedd sydd ar gael iddynt gael mynychu dangosiadau ffilm a sioeau.”

 

Oily Cart - Blue
Cymysgedd o gerddoriaeth byw , goleuo arloesol a tafluniadau fideo. Wedi ei ysbrydoli gan sain a delweddau allan o gerddoriaeth Blues, o Mali i Memphis - cynhyrchiad rhyngweithiol ac aml-synhwyriad. Yn BLUE, roedd y gynulleidfa yn ymuno â chymeriadau cyfeillgar oedd yn disgwyl am drên. 


Oily Cart | Something in the Air | 2010
Oily Cart – Something in the Air
Roedd Something in the Air yn gynhyrchiad ar y cyd ag Ockham’s Razor, cwmni perfformio syrcas. Ar gyfer pob sioe,  roedd 6 plentyn a 6 cymhorthydd yn eistedd mewn seddi ‘nyth’ pwrpasol ac yn codi i’r awyr gan hedfan drwy gydol y sioe gyda’r artistiaid awyr o Ockham’s Razor.

 

Oily Cart - Drum
Daeth Oily Cart a’r cynhyrchiad Drum i Galeri yn 2011. Roedd y sioe yn addas i blant ifanc igyda anableddau dysgu dwys a’r rheini oedd ar y sbectrwm awtistig. 

Prosiectau gyda Oily Cart yn y dyfodol…
Gyda arbenigedd yn y maes a’r gwaith ac ofewn staff Galeri, hoffem allu cyd-weithio gyda Oily Cart gan rannu ein profiadau a’n cefndiroedd i gyd-gynhyrchu sioe newydd unigryw yn y Gymraeg yn ystod y blynyddoedd nesaf (yn ddibynol ar yr ariannu).
 
www.oilycart.org.uk

Stori ryngweithiol wreiddiol Gymraeg ar gyfer plant 5 - 8 oed. Dyfeiswyd y gwaith mewn cydberthynas rhwng Galeri a’r actores a chyfarwyddwr, Siwan Llynor. Perfformiad ryngweithiol ar gyfer hyd at 10 plentyn.
Treialwyd y cynhyrchiad yn ward Peblig, Caernarfon yn 2011.

Roedd ‘Yn y Ffram’ yn brosiect ffilm dwy-ieithog wedi ei deilwro ar gyfer uned ailgyfeiriad Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon. Dan arweiniad y cyfarwyddwr ffilm a teledu Eilir Pierce, cafodd y pobl ifanc ddysgu am lythrennedd ffilm, actio ar gamera, ysgrifennu sgript, cyfarwyddo, sain a goleuo yn ogystal a golygu ffilm.

Ym mis Gorffennaf 2009, cynhaliwyd prosiect anumeiddio gyda chriw o bobl ifanc a staff Ysgol Pendalar (Caernarfon). Crëwyd y ffilm o dan arweiniad y Prifardd Mei Mac, yr animeiddiwr Meical Roberts a’r cerddor Gronw Roberts mewn ymateb i Gastell Caernarfon ac fel rhan o’r Olympiad Diwylliannol. Defnyddwyd can gan y band Super Furry Animals ‘Rings Around the World’ fel ysbrydoliaeth i’r gwaith.